1.            Senedd Cymru
 Ymgysylltu â dinasyddion
 Canfyddiadau’r gwaith ymgysylltu
 Ymchwiliad i’r heriau sy’n wynebu gweithlu’r diwydiant creadigol yng Nghymru
 Ionawr 2023
 Y cefndir

1.              Ym mis Medi 2022, penderfynodd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol gynnal ymchwiliad i’r heriau sy’n wynebu gweithlu’r diwydiant creadigol.

2.            I helpu gyda’r ymchwiliad hwn, cynhaliodd y Tîm Ymgysylltu â Dinasyddion gyfres o gyfweliadau un-i-un gyda gweithwyr o wahanol feysydd o weithlu’r diwydiant creadigol.

3.            Mae’r adroddiad hwn yn crynhoi canfyddiadau’r Tîm Ymgysylltu â Dinasyddion.

2.         Cyfranogwyr

4.            Er mwyn cael ystod eang o dystiolaeth gan bobl â phrofiad personol, bu’r tîm ymgysylltu â dinasyddion yn gweithio gyda phobl yn y meysydd hyn o weithlu’r diwydiant creadigol ledled Cymru:

§    Animeiddwyr

§    Fideograffwyr

§    Technegwyr Sain

§    Actorion ag anabledd

§    Gweithlu creadigol Cymraeg

§    Sgriptwyr

§    Dylunwyr Goleuo

§    Rheolwyr Llwyfan

§    Rheolwyr Lleoliadau Cerddoriaeth Fyw

§    Cynhyrchwyr gemau

Hoffem ddiolch i’r holl gyfranogwyr am gymryd amser i fwydo eu lleisiau i’r ymchwiliad hwn.

3.         Ymgysylltiad a Methodoleg

5.            Ym mis Tachwedd 2022, hwylusodd y Tîm Ymgysylltu â Dinasyddion 13 o gyfweliadau ag unigolion yn cynrychioli gwahanol feysydd o weithlu’r diwydiant creadigol ledled Cymru. Cynhaliwyd wyth o’r cyfweliadau hyn ar-lein ar Microsoft Teams a chynhaliwyd pump wyneb yn wyneb.

6.            Amcan y gwaith ymgysylltu oedd casglu barn a phrofiadau gwahanol feysydd o weithlu’r diwydiant creadigol yng Nghymru sydd â phrofiad byw o weithio yn eu maes arbenigedd penodol fel y nodir uchod.

7.             Roedd fformat y gwaith ymgysylltu yn debyg i raddau helaeth rhwng sesiynau, ond cafodd ei amrywio ychydig i ddiwallu anghenion cyfranogwyr.

8.            Gofynnwyd i’r cyfranogwyr drafod y cwestiynau canlynol sy’n adlewyrchu themâu perthnasol o fewn cylch gorchwyl yr ymchwiliad:

§    Beth yw cyflwr presennol gweithlu'r sector, gan gynnwys effeithiau'r pandemig, Brexit a’r argyfwng costau byw? A yw gweithwyr wedi gadael y sector, a pha effaith y mae hyn wedi’i chael?

§    Pa mor sefydlog yw'r sector yn ariannol a pha mor addas yw'r cyflog a’r amodau gwaith?

§    Pa mor gyfartal, amrywiol a chynhwysol yw’r sector? Sut y gellid gwella hyn?

§    Pa mor ddigonol yw’r sgiliau a chyfleoedd hyfforddi? A oes bylchau, a sut y dylid eu llenwi?

§    Beth fu effaith cymorth gan gyrff cyhoeddus fel Llywodraeth Cymru, ac a oes angen cymorth pellach?

4.         Themâu allweddol sy’n codi

9.            Er bod materion personol gwahanol gan unigolion, daeth nifer o themâu cyffredin i’r amlwg yn y trafodaethau. Roedd y themâu hyn yn effeithio ar unigolion o wahanol feysydd o’r gweithlu diwydiant creadigol.

Cyflwr y gweithlu: Effaith Covid-19 ar y Gweithlu Diwydiant Creadigol

10.        Heb os, roedd effaith Covid-19 i’w theimlo i ryw raddau ar draws y diwydiant. Er bod rhai cyfranogwyr yn rhannu canlyniadau cadarnhaol a oedd yn deillio o orfod ailfeddwl am eu gwaith, cafodd eraill eu gorfodi i adael y diwydiant i ymgymryd â rolau mewn sectorau eraill. Heb oes, roedd graddfa enfawr y diwydiant yn golygu, er bod rhai meysydd wedi elwa, roedd eraill – yn enwedig gweithwyr llawrydd – yn ei chael hi’n anodd.

11.           Esboniodd rhai cyfranogwyr sut roedd Covid-19 wedi eu gwneud yn brysurach nag erioed:

‘Dwi ddim yn meddwl bod unrhyw beth wedi arafu o ran gemau. Dwi’n credu mai dim ond pan oedd pobl yn cael COVID yr oedd pethau’n arafu, chi’n gwybod, ac yn gorfod cymryd amser i ffwrdd, ond ar y cyfan dwi’n credu bod y diwydiant gemau yn gyffredinol wedi dal ati, parhau i symud gan ei fod yn gallu – roedden ni’n brysur iawn.’

‘Roedden ni’n hurt o brysur, i fod yn onest, roedd cwmnïau teledu ac ati yn ysu i gael cynnwys ac roedden ni ar flaen y gad o ran y gwaith. Mae’n beth anodd i’w ddweud mewn ffordd, achos rwy’n nabod digon o weithwyr a sefydliadau a oedd yn cael trafferth, ond o’m safbwynt i, gan siarad yn broffesiynol, roedd hi’n wych’.

12.         Roedd hefyd sawl enghraifft nodedig o effaith negyddol Covid-19, gyda sawl unigolyn yn cyfeirio at gydweithwyr a oedd wedi gadael y sector oherwydd cyfyngiadau ariannol a diffyg cyfleoedd:

‘Roeddwn i yn lwcus ac yn gallu cario mlaen a gwneud fy ngwaith, ond roedd pobl eraill yn y sector…stage managers, freelancers, techies…ffrindau agos,  yn gorfod gadael y sector, never to return, it was so catastrophic for that’

‘Meddwl am y freelancers roeddem ni yn gweithio efo, off top fy mhen mae un wedi gadael i fod yn paramedic, un arall wedi symud ymlaen i fod yn plumber – doedd dim gwaith, dim digwyddiadau byw, a doedden nhw ddim yn ffitio mewn i'r cultural recovery fund – felly dim arian’

‘Dwi yn gwybod for a fact fod nifer o bobl yn y sector wedi gorfod mynd i weithio i Asda/Tesco etc, ac mae nifer heb ddod nôl. I was lucky, right place, right time, right networks’

Yn amlwg ry’n ni i gyd yn gwybod bod yr oriau’n afreolaidd a dyw’r tâl ddim yn wych, ond dwi’n meddwl bod llawer o bobl wedi cael eu gorfodi i mewn i ‘fywyd mwy normal’ (yn absenoldeb term gwell) yn sgil y pandemig, yn mynd i weithio i ALDI neu ble bynnag aethon nhw i weithio. Fe wnaeth gyrfaoedd a ffordd o fyw pobl newid dros nos’

13.         Un neges gref a ddaeth i’r amlwg oedd sut roedd yn rhaid i gwmnïau ac unigolion feddwl ar eu traed, addasu eu ffordd o fyw ac, mewn rhai achosion, dysgu sgiliau cwbl newydd bron dros nos. Gwnaeth llawer o’r rhai a gafodd eu cyfweld nodi bellach bod hyblygrwydd a chael sgiliau amrywiol yn hollbwysig er mwyn gallu goroesi a ffynnu tra’n gweithio yn y sector yn ystod y pandemig:

‘Fe wnaeth covid daro a chafodd y criw ergyd enfawr – fe gollon ni gwerth £60/70,000 dros nos. Ar y pryd roedd gennym 7 o staff llawn amser ac fe gafodd ein bara menyn ei dynnu oddi wrthym. Heb os, achosodd Covid i ni arallgyfeirio ein cynnyrch – gallwn edrych yn ôl a dweud ei fod yn llwyddiant yn y diwedd ond roedd llawer o banig a straen.’

‘Pan ddaeth Lockdown – I had no work so what the hell do I do? Do I need a job? Lwcus fod rhai o networks fi yn gwneud gwaith ar-lein a dechrau streamio yn syth. I fod yn onest I didn’t know much about streaming so I had to learn fast. Os doeddet ti ddim yn gallu addasu roeddet mewn trwbl’

‘Rwy’n dipyn o ‘jack of all trades’ yn y diwydiant, techneol, rheoli cynyrchu, rigio ac ati – roedd hynny’n fendith yn ystod y Covid gan mai hyblygrwydd oedd y peth allweddol er mwyn parhau i weithio’

‘O’n i mewn nifer o gyfarfodydd yn ystod yr amser yna – ac roedd mor drist clywed y problemau oedd rhai pobl (efallai efo sgiliau llai hyblyg) yn mynd trwyddo – I think flexibility became the must have skillset’ in the industry

14.         Soniodd nifer o weithwyr profiadol na fyddent wedi goroesi pe byddai hyn wedi digwydd yn gynharach yn ystod eu gyrfa, ac roedd llawer yn teimlo’n eithriadol o ffodus eu bod mewn adeg yn eu gyrfa lle roedd ganddynt rwydweithiau cryf i’w cefnogi:

‘I bobl oedd yn dechrau mas it could have been awful. Meddwl nôl, os fysa covid wedi digwydd pan oeddwn i yn y brifysgol it would have changed my entire life and career’

‘Gadawodd cymaint o bobl y sector – yn enwedig pobl ifanc, os oedden nhw yn eu blwyddyn neu ddwy gyntaf o’u gwaith llawrydd roeddent mewn trwbwl. Ro’n i’n lwcus ... rydw i'n hŷn, wedi bod o gwmpas y bloc, ac mae gen i rwydweithiau cryf, ond ro’n i hyd yn oed yn ei chael hi’n anodd. Pe bai wedi digwydd ddeng mlynedd yn ôl mae’n debyg na fyddwn i yr un person’

‘Yn od i fi, wnaeth Covid hitio pan roedd fy career fi on the up, so financially I was ok oherwydd roedd sgripts etc wedi eu comisiynu – fel ysgrifennwr ti dipyn bach mwy lwcus na ‘freelancers’ eraill. Os fysa hyn wedi digwydd 10 years earlier it would have been a different story’

15.         Yn ogystal â phobl yn gadael y sector ehangach yn llwyr, roedd sawl enghraifft o bobl yn croesi drosodd o berfformiadau byw (gigs a theatr) i weithio ym myd teledu a ffilm a oedd i’w weld yn cynnig amgylchedd mwy sefydlog ar gyfer rhai setiau sgiliau. Roedd negeseuon cyson trwy gydol y gwaith ymgysylltu bod ffilm a theledu yn ffynnu:

‘Mae pobl wedi gadael y sector – roedd rhai pobl yn ei ddefnyddio i newid eu gyrfaoedd ond nid oedd gan y mwyafrif ddewis. Mae’n teimlo bod y dirwedd wedi newid. Mae ffilm a theledu yn teimlo ychydig yn fwy sefydlog wrth symud ymlaen a symudodd llawer o bobl i’r maes yna.

‘Mae mwyafrif faswn i yn ei ddweud wedi symud draw at y sector ffilm a theledu. Roedd y sector yna mor brysur yn ystod y pandemig – mwy nag erioed. Roedd cwmnïau ffilmio yn dweud ar y pryd ei fod yn galw am fwy o weithiwyr, ar gyflogau mwy, ac ar contracts hirach…no brainer i weithiwr’

16.         Nododd nifer o’r rhai a gafodd eu cyfweld, er bod llwyddiant ffilm a theledu yn wych, roedd angen i’r diwydiant ar y cyfan fod yn ymwybodol bod perfformiadau byw yn dal i fod yn bwysig ac er nad ydynt yn denu cymaint o incwm â theledu a ffilm, roedd ganddo rôl i’w chwarae:

‘Dyw stwff teledu ddim yn bodoli heb berfformiadau byw – ochr greadigol cynnwys ond hefyd y sgiliau sydd eu hangen ar staff technegol. Mae angen i’r ddau fod yn iach – allwch chi ddim cael un yn iach ar draul y llall. Mae’n teimlo bod anghydraddoldeb rhwng Cymru Greadigol a Chyngor Celfyddydau Cymru er enghraifft’

‘Wrth edrych at y dyfodol, mae’n hollbwysig bod pethau’n cael eu gweld ychydig yn fwy cyfartal.  Weithiau rwy’n cael yr argraff bod ie… ffilm a theledu yn wych. Maen nhw’n enghreifftiau hawdd i’w cyflwyno o’r math o ddiwydiannau creadigol a’r hyn sy’n dod gyda nhw – yn enwedig yn ariannol. Ond mae meysydd creadigol eraill ar gael, o ble daw’r cynnwys ar gyfer ffilm a theledu? Ble mae’r gweithlu, yr animeiddwyr ac ati, yn ennill profiad yn y diwydiant creadigol?'

Sefydlogrwydd ariannol y sector

17.         Trafodwyd y gwahaniaethau clir o ran sicrwydd ariannol rhwng gweithio ym myd ffilm a theledu a gweithio ar berfformiadau byw gan gynnwys gigs a theatr yn ystod nifer o’r cyfweliadau:

‘Un o'r problemau gyda pherfformiad byw yw nad oes tâl digonol, ac mae’r gwaith yn ansefydlog o’i gymharu â theledu. Felly, yn ystod covid, aeth staff technegol a gweithwyr llawrydd gyda sgiliau trosglwyddadwy i’r byd teledu ac rwy’n gwybod am lawer sy’n gwneud mwy o arian, yn gwneud llai o oriau, ac os ydych chi’n ei roi e fel yma, mae’n syml.

Mae’r sector ffilm a theledu, hyd yn oed yn Gymraeg yn very viable I’d say – cymharu hwnnw efo’r live sector…It’s another world. I fi, dwi yn mwynhau’r live element – nothing beats that, so it’s a pay off-mind the pun -  with working conditions and pay’

‘Mae’r effaith y gall y byd ffilm a theledu ei chael ar y gweithlu perfformio byw yn gallu bod yn bryderus. Mae’n teimlo fel ein bod yn cyrraedd uchafbwynt lle mae’r problemau a’r bylchau yn dod yn amlwg’

18.         Daeth effaith Brexit a’r argyfwng costau byw i’r amlwg hefyd mewn trafodaethau ar faterion sy’n codi ar draws y sector. Roedd lleoliadau ac unigolion yn ei chael hi'n anodd gyda’r argyfwng costau byw.

19.         Esboniodd llawer sut roedd biwrocratiaeth sy’n gysylltiedig â Brexit yn achosi problemau mawr:

‘Mae Brexit wedi cael effaith aruthrol arnon ni. Er enghraifft, fe gafon ni ‘shoot’ teledu ar gyfer S4C yn yr Iseldiroedd, roedd yr amser ciwio yn enfawr. Gan fod gen i gamera mewn campervan, ro’n i’n cael fy ystyried fel ‘freight’. Mae’n rhaid i ni dalu am hynny ac mae'n ychwanegu oriau maith i’r daith – dyw e ddim yn cŵl…’

‘Hynny yw, y brif broblem gyda Brexit i ni yw nad yw llawer o fandiau yn trafferthu dod i’r DU mwyach oherwydd dyw e ddim mor syml ag oedd e arfer bod. Pam fydden nhw’n trafferthu gyda darn arall o waith papur dim ond er mwyn gwneud ychydig o ddyddiadau ar ynys fach, oer, wlyb? Felly dyna brif effaith Brexit i ni ac, mae cost cwrw gan ein cyflenwr yn dal i godi. Mae’n cynyddu bob tri mis!’

‘Ble ydw i'n dechrau, Brexit, y pandemig, costau byw… Weithiau gall fod yn anodd nodi’n union beth sy’n ein brifo ni fel cwmni fwyaf oherwydd mae’n storm berffaith'

20.       Roedd costau byw yn broblem amlwg yn y sector, gyda biliau ynni, prisiau llety a chostau trafnidiaeth yn peri problemau i wahanol feysydd o’r sector:

‘Fel lleoliad, mae ein costau’n cynyddu bob dau fis. Ry’n ni’n cael llythyrau cyson gan gyflenwyr. Mae’r argyfwng ynni yn hurt. Mae ein trydan bellach deirgwaith y pris yr oedd arfer bod. Ond allwn ni ddim cynyddu prisiau a’u trosglwyddo i gwsmeriaid oherwydd does ganddyn nhw ddim arian i dalu £6 am beint, er enghraifft.’

‘Mae gwestai yn broblem fawr, maen nhw’n rhy ddrud sy’n golygu felly eich bod chi’n gorfod aros yn bellach i ffwrdd sydd wedyn yn broblem gyda phetrol – gall cwmni ddim fforddio talu i chi aros mewn llefydd mwyach’

‘Mae popeth yn dod mewn tonnau, er enghraifft lleoliadau yn codi cyfraddau 50/60% – rydyn ni mewn lle bregus iawn i’r math yna o newidiadau fel sefydliad perfformio byw teithiol. Rwy’n teimlo ein bod ni’n gweld costau byw yn taro o bob ongl’

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

21.         Daeth materion sy’n effeithio ar y gweithlu Cymraeg ei iaith, pobl anabl, rhyw, ethnigrwydd a statws economaidd-gymdeithasol yn y gweithlu, i’r amlwg trwy amrywiol drafodaethau. Siaradodd rhai pobl yn gadarnhaol am yr hyn yr oeddent yn ei deimlo fel newid cadarnhaol yn eu meysydd o’r gweithlu:

‘Fel person ifanc newydd raddio gydag acen sy’n fenyw, weithiau mae pobl ychydig yn fwy nawddoglyd. Dwi ddim yn credu fy mod i wedi dod ar draws gwahaniaethu o reidrwydd, efallai bod yna ychydig mwy o ddiwylliant o dan yr wyneb gan y techies sydd angen ei newid’

‘Mae llawer o amgylcheddau gwaith eisiau arallgyfeirio nawr, felly mae bron rhyw fath o agwedd fel gwahaniaethu cadarnhaol yn y sector. Dwi’n credu bod llawer o waith wedi’i wneud yn unol â’r mudiad Mae Bywydau Du o Bwys a’r ymgyrch Me Too. Ond mae’n broses araf’

22.        Roedd sawl un o’r rhai a gafodd eu cyfweld yn gweithio yn y sector Cymraeg ei iaith a nodwyd yr anawsterau yn y maes hwnnw - gan ganolbwyntio’n benodol ar ddiffyg pobl sy’n siarad Cymraeg sydd â’r sgiliau priodol yn y sector. Cafwyd trafodaeth hefyd fod angen i addysgwyr Cymraeg wneud mwy i hyrwyddo’r iaith fel rhywbeth cadarnhaol ar gyfer gwaith:

‘Mae’r prinder yn y gweithlu Cymraeg yn sgeri. Mae skill shortages mawr yn yr ochr techies a rheoli llwyfan’

‘Mae’r Welsh language yn majorly under-represented. Mae gymaint o broblemau i gael techies a designers etc sydd yn siarad Cymraeg. Stage managers, production managers yr un peth’

‘Dwi ar fwrdd llywodraethwyr ysgol uwchradd ac yn trafod TGAU ac Lefel A Cymraeg a cyn lleied o blant sydd yn astudio. Maen nhw dal yn astudio y Gododdin etc – pam ydy lefel A Cymraeg ddim yn gwneud i bobl feddwl am copywriting neu stage management neu swyddi yn y sector? Dydi o ddim yn ddigon da’’

23.        Soniodd sawl person am y gred bod gan y gweithlu ar y cyfan ddiffyg cynrychiolaeth o’r boblogaeth fyd-eang – tra bod pryder amlwg hefyd bod statws economaidd-gymdeithasol pobl yn rhwystr i bobl sy’n gweithio yn y sector:

Dydi grwpiau o’r global majority a phobl anabl ddim yn cael eu cynrychiol from y byd technegol – I haven’t met many techies/stage managers, lighting designers’

‘Does dim cynrychiolaeth na chyfran enfawr o bobl o’r boblogaeth fyd-eang yn y diwydiant, fe wnes i sylwi hynny hefyd yn fy hyfforddiant yn ddiweddar. Dim ond newydd orffen yn y Brifysgol ydw i, a dwi’n meddwl bod y system ddosbarth yn chwarae rhan fawr mewn cael rolau mewn rhai sectorau - teledu a ffilm yn arbennig.’

‘Rwy’n cofio siarad â phobl ar ryw hyfforddiant yn ddiweddar lle roedd ganddyn nhw gyfleusterau drama da mewn ysgolion a mynediad at gyfleoedd na fyddwch chi’n dod i gysylltiad â nhw os ydych chi’n dod o gefndir stad gyngor mwy dosbarth gweithiol, ac wedyn fyddech chi ddim yn dueddol o fynd i mewn i yrfa fel yna.’

‘Dwi yn meddwl fod issue efo pobl low-income yn gweithio neu ddim yn gweithio yn y sector – mae yn anodd pinpointio hyn, mi fysa yn ddiddorol gweld ond dwi yn meddwl ei fod yn broblem ar hyd  sector, efallai fwy yn y Gymraeg’

24.        Soniodd rhai cyfranogwyr am bryderon lles, a rhoddwyd enghreifftiau o bobl yn cael eu trin yn wael ar setiau ffilm a theledu. Nododd person arall sut yr oedd pryderon lles yn y sector diwydiant creadigol a allai achosi problemau i’r gweithlu:

‘Dwi wedi cael profiadau drwg mewn teledu – welfare was a bad thing, staff were not looked after. Basic things like catering for staff, crew treated badly, gradually getting worser and worse over the course of a contract. The directors and producers would be eating pizzas etc on company card….we get water and some fruit if we are lucky.’

‘Dwi wedi colli cyfri ar sawl gwaith dwi wedi gweld pobl yn cael eu cam-drin yn eiriol ar set. Mae egos cyfarwyddwyr yn beth go iawn ac, mae’n rhaid i fi fod yn onest, dyw e ddim yn creu amgylchedd gwaith dymunol – yn ôl pobl eraill rwy’n nabod, mi fydden i’n dweud ei fod yn beth cyffredin yn y diwydiant.’

‘Mae egos yn enfawr yn y sector – ac mewn rhai llefydd a mannau gall fod yn fygythiol i weithwyr. Cyfarwyddwyr, cynhyrchwyr…gall y bobl hynny sydd ‘in charge’ daflu cysgod mawr dros gwmni a allai arwain rhai gweithwyr, yn enwedig gweithwyr llawrydd, i gadw draw.’

25.       Daeth materion clir i’r amlwg wrth siarad ag arbenigwyr a oedd yn ymgysylltu ag actorion ag anableddau dysgu. Roedd materion yn ymwneud â phecynnau cymorth a budd-daliadau yn golygu bod talu actorion yn broblem ac yn rhwystr amlwg wrth drafod cynwysoldeb yn y sector:

‘Mae gan bob actor unigol rydyn ni’n gweithio â nhw ei becyn cymorth/budd-daliadau unigol ei hun, a bydd gan lawer ohonynt gap enillion. Mae hyn yn golygu na allant ennill mwy na £152 yr wythnos – os felly, bydd eu budd-daliadau yn eu dileu a gall gymryd misoedd o drafod nôl a mlaen er mwyn adfer eu budd-daliadau.

‘Mae'r mater hwn ynghylch cymorth, taliadau, budd-daliadau a llywio sut i dalu ein hactorion ag anabledd yn hollbwysig ac mae angen ei drafod yn fanwl. Ry’n ni eisiau talu ein hartistiaid yn deg ac mae’n anodd. Byddem yn croesawu trafodaeth gyda Llywodraeth Cymru – er nad yw budd-daliadau yn fater sydd wedi’i ddatganoli’

26.       Nodwyd, er bod meysydd eraill o ‘gynwysoldeb’, fel mwy o gyfleoedd i actorion ag awtistiaeth neu actorion ag anableddau dysgu yn gwella’r materion yn ymwneud â chyflogau a budd-daliadau yn golygu, nid oedd y gwelliannau hyn yn dweud y stori'n llawn. Nododd llawer nad oedd y cyfleoedd yn y sector byth yn mynd i fod yn hollol gynhwysol nes bydd y mater yn cael ei unioni:

‘O ran cynwysoldeb yn y diwydiannau creadigol – mae hwn yn rhwystr enfawr – yn y pen draw, gall e ddim fod yn gynhwysol oherwydd nid oes gan bobl a theuluoedd lwybr diogel i ennill arian.’

‘Y pryder yw’r cynnydd hwn yn y galw am gynwysoldeb, sydd ar un lefel yn grêt – ond dim ond hyn a hyn y gall fynd – o safbwynt yr actorion gall gael gormod o effaith bryderus, ac o safbwynt cynhyrchu mae angen gwneud llwyth o waith ychwanegol.’

Prinder sgiliau ac anghenion hyfforddi

27.        Roedd neges glir yn dod i'r amlwg ynghylch nifer y bobl oedd wedi gadael y sector perfformio byw gan felly greu bylchau sgiliau mawr a sawl rôl anodd eu llenwi. Roedd materion yn ymwneud â Covid-19 yn golygu bod cyfoeth o brofiad i gyd wedi gadael ar yr un pryd, ac fe gollwyd llawer iawn o wybodaeth a oedd yn cael effaith enfawr:

‘Y broblem ar hyn o bryd yw bod pawb yn gweithio gormod oherwydd does dim digon o brofiad. Felly, efallai bod gennym ni dîm o 20 o bobl fel o’r blaen, ond dim ond pedwar ohonyn nhw sy’n gwybod beth maen nhw’n ei wneud. Felly mewn gwirionedd, mae’r pedwar person yna wedi blino’n gorfforol, maen nhw wedi blino'n emosiynol oherwydd y cyfan maen nhw'n ei wneud yw dysgu pobl eraill yn eu swydd neu gywiro camgymeriadau.’

‘Doedd yna ddim cyfnod pontio arferol lle bydden nhw’n hyfforddi rhywun oherwydd fe wnaeth pawb adael dros nos bron oherwydd Covid. Nid oedd unrhyw ffordd o drosglwyddo unrhyw wybodaeth ymlaen. Felly mae hwnnw wedi mynd a ddaw e byth yn ôl.’

‘Yn uniongyrchol i ni - mae’n effeithio arnom ni gan ein bod ni’n perfformio mewn lleoliadau felly mae’n effeithio arnon ni yr un ffordd ond hefyd mae'r lleoliadau hynny wedi bod yn brin o staff – mae wedi bod yn hunllef. Mae’r materion o ran y gweithlu hynny ar draws Cymru wedi effeithio arnon ni ble bynnag yr awn. Bu’n rhaid i’n rheolwr cynhyrchu ail-wneud gwaith a gafodd ei wneud gan leoliadau oherwydd diffyg profiad y timau hynny yn lleoliadau – gan ddyblu ei waith i bob pwrpas.’

28.       Soniodd nifer o bobl am y diffyg profiad o fewn y gweithlu theatr fyw a pherfformio oherwydd nifer y bobl sy’n gadael i weithio i gwmnïau ffilm a theledu. Nododd sawl un fod hyn wedi bod yn sioc i’r gweithlu a bod pobl yn cael eu dyrchafu i rolau nad oedd ganddynt y profiad ar eu cyfer, a bod diogelwch yn dod yn broblem wirioneddol:

‘Bob tro dwi'n cerdded i mewn i theatr neu berfformiad byw nawr, y peth cyntaf dwi'n ei wneud yw edrych i fyny. Dwi’n credu bod diogelwch yn bryder go iawn, achos mae gennych chi bobl mewn swyddi nad ydynt wedi’u hyfforddi i’w gwneud oherwydd diffyg sgiliau ar raddfa fawr gan fod cymaint o bobl wedi gadael y sector yn ystod Covid. Efallai eich bod chi’n meddwl fy mod i’n tynnu coes, ond dros yr ychydig fisoedd diwethaf dwi wedi clywed nifer o straeon am ddamweiniau wnaeth bron ddigwydd oherwydd diogelwch ac offer yn cwympo.’

‘Dwi wedi bod yn ddirprwy reolwr llwyfan, sef rhywbeth na fyddech chi, fel rhywun newydd raddio, yn disgwyl ei wneud tan ychydig o flynyddoedd o brofiad yn y diwydiant. Mae yna bobl mewn swyddi nad oes ganddynt y sgiliau i’w gwneud.’

‘Yn y bôn, mae pawb yn gwneud swydd sydd un neu ddwy lefel yn uwch na lle y dylen nhw fod, dyna sut mae’n teimlo. Felly, mae'n wych i raddedigion ifanc ac ati, ond y broblem yw nad oes ganddyn nhw brofiad, maen nhw’n gwneud camgymeriadau y gwnaethon ni ddysgu peidio â’u gwneud amser hir yn ôl sydd heb gael eu pasio i lawr. Felly, mae’n teimlo fel ein bod ni wedi mynd nôl deg mlynedd ac wedi colli cenhedlaeth o sgiliau.’

29.       Gwnaeth eraill sylwadau pellach ar y prinder sgiliau penodol yng Nghymru. Roedd hyn yn cynnwys rolau technegol penodol a phrinder cyffredinol o sgiliau sydd eu hangen ar y diwydiant gemau a oedd yn gorfodi cyflogwyr i edrych ymhellach:

‘Mae yna shortage mawr mewn female camera operators. I think there is a lot of interest but it’s a struggle to get experience. TV Crews have got this history of being a male environment and it needs to change.’

‘Mae skill shortages in general mewn gaming yng Nghymru – ond mae hybrid working yn meddwl fod ni yn gallu cyflogi pobl o America er enghraifft i ddod i weithio ar gêm Cymraeg – so it spreads the word for the industry here I guess.’

‘Mae skill shortages yn huge mewn technical yng Nghymru. Er enghraifft mae rigging yn beth mawr, does dim digon o bobl yn gwybod sut i riggio’

30.       Er bod rhai pobl yn nodi bod pobl ifanc a graddedigion yn cael mwy o gyfleoedd oherwydd y bylchau yn y gweithlu, roedd eraill yn teimlo bod angen gwneud llawer mwy i gefnogi datblygiad person ifanc i’r diwydiant creadigol:

‘Dwi ddim yn gweld llawer o bobl ifanc yn dod fyny yn y ranks, tyfu fyny, growing into roles a cael profiad. Ges i apprenticeship – that was my route into the business. Cael dysgu o rywun profiadol and get the hands-on experience’

‘Mae lot o bobl yn mynd i golegau, yn dod allan and don’t really know what they are doing – meddwl fod absence o apprenticeships a phobl yn gweithio ei hun i fyny yn meddwl fod huge gap yn y gweithlu.’

‘Ro’n i’n siarad â chydweithiwr uchel ei barch, ac roedden ni jyst yn trio meddwl, ble mae’r lleisiau newydd? Mae’n wir o ran artistiaid, animeiddwyr, pobl greadigol ar draws y sector ac yn amlwg mae hynny’n wir yn rhannol oherwydd bod pobl wedi colli cymaint yn ystod Covid.’

31.         Soniwyd am ddiffyg cyfleoedd perthnasol mewn ysgolion ar sawl achlysur. Dywedodd llawer o bobl nad oedd pobl ifanc yn cael digon o gyfeiriad neu wybodaeth am nifer y gyrfaoedd sydd ar gael yn y sectorau, a chyfleoedd fel prentisiaethau ddim yn cael eu defnyddio i’r eithaf:

‘Rwy’n gweld pobl ifanc yn cael eu dal yn ôl oherwydd does ganddynt ddim y sgiliau sylfaenol sydd eu hangen. Felly mae'r holl beth prentisiaeth yn rhywbeth y gellid ei gymhwyso i fy sector (animeiddio a’r celfyddydau creadigol) ychydig yn fwy na sy’n digwydd ar hyn o bryd. Dwi wedi’i weld yn gweithio’n dda yn y byd teledu a ffilm ond efallai bod angen i feysydd eraill fod yn fwy rhagweithiol yma.

‘Problem fwyaf yn fy marn i yw does dim digon o gyfleon mewn ysgol – dim digon o wybodaeth am y technical careers os nad ydi pobl ifanc yn rili gweithio am y cyfleon – meddwl fod llawer yn disgyn trwy y cracks’

‘Mae angen inni ganolbwyntio ar bobl ifanc yn y diwydiant creadigol. Mae hynny’n wir am y sector cyfan, ond i fi – mae angen i ni adael i blant fod yn greadigol ac yn artistig a pheidio â phoeni am fethu. Mae angen eu cael nhw i mewn i brentisiaethau a dysgu! Dylid gwario arian yn y maes hwn.’

‘Cafodd fy merch swydd yn y byd teledu ac ro’n i’n falch iawn pan ddywedodd ei bod hi am wneud y brentisiaeth hon. Dwi’n meddwl bod y byd ffilm a theledu yn ffynnu yng Nghymru, ac mae hynny’n wych. Ac eto, mae angen i ni ddiolch i Lywodraeth Cymru am hynny. Mae’n debyg mai’r cwestiwn yw sut mae eraill yn efelychu’r llwyddiant hwnnw.’

Effaith cyllid Llywodraeth Cymru

32.        Siaradodd mwyafrif y cyfranogwyr yn gadarnhaol iawn am gymorth ariannol Llywodraeth Cymru yn ystod y pandemig Covid-19 – gyda nifer o bobl yn nodi sut y gwnaeth y Gronfa Adfer Diwylliannol eu helpu nhw a’u cydweithwyr i oroesi yn y pen draw yn ystod y cyfnod hwn. Soniodd llawer am ba mor hawdd oedd gwneud y ceisiadau a pha mor gyflym y daeth y cymorth:

‘Fel cwmni roedd y Cultural Recovery Fund yn god-send i ni, roedd staff efo furlough ac wnaethon ni ddefnyddio y CRF i dalu ein debt a galluogi ni i gario mlaen fel cwmni.’

‘Lots o bobl self-employed yn dweud they could have done more, ond fel cwmni it was a pleasant experience ac roedd yn life-jacket when we really needed it.’

'Ro’n i’n gweithio i Ymddiriedolaeth Lleoliadau Cerddoriaeth ar y pryd, felly ro’n i’n helpu’r holl leoliadau yng Nghymru i’w gael. A gwelais gyda llygad fy hun y ceisiadau cronfa Adferiad Diwylliannol yn Lloegr, ac roedd y ffurflen yng Nghymru yn hollol wych. Roedd yr un yn Lloegr yn hunllef. Felly roedd yr un Cymru yn wych, yn hollol wych.’

‘Ges i bounce back loan gan y Llywodraeth, it was a breeze for me, ges i furlough ac wedyn ges i cultural recovery fund. Rhaid ei fod wedi helpu fi am tua 20k, I was very thankful and happy, the process was straight forward – I was really pleasantly pleased and it probably saved my career.’

‘Ar gyfer artistiad llawrydd roedd y culture recovery fund yn eithaf araf yn y dechrau, ond trwy edrych yn ôl dwi yn meddwl ei fod yn broses da, ac proses gwell na beth efallai oedd yn digwydd mewn sefydliadau eraill yn Mhrydain’. Roedd artistiaid yn sort of ok ar ôl dallt y cultural recovery fund.’

33.        Tra’n canmol y Gronfa Adfer Diwylliannol a’r cyflymder a’r rhwyddineb o ran cael gafael ar arian, roedd consensws bod angen mwy o gymorth wrth i’r sector adfer – nid yn unig yn ariannol ond yn edrych ar ffyrdd penodol o gefnogi meysydd y tu allan i’r byd ffilm a theledu:

‘Mae diffyg ymwybyddiaeth o’r swyddi sydd ar gael ar draws y sector, yn general ac yn enwedig yn yr iaith Gymraeg. Mae angen positive comms campaign ar ôl covid ac mae angen perswadio pobl ei bod yn dal yn sector da i weithio ynddi – and it is rewarding…if not always financially.’    

‘Mae pob lleoliad yng Nghymru ry’n ni wedi siarad â nhw yn dweud yr un peth, mae’n ddramatig ond chi’n gwybod, ry’n ni i gyd wythnos wael i ffwrdd o ddod yn fethdalwr – dyna’r union dirwedd ry’n ni ynddi ar hyn o bryd – rydw i’n meddwl bod angen i’r Llywodraeth feddwl yn greadigol o ran cymorth, ac nid cymorth ariannol yn unig.’

‘Byddai'n hawdd iawn dweud arian, ond dydw i ddim yn meddwl ei bod hi'n bosibl dal ati i daflu arian at bethau am byth ac yna ond gobeithio y byddan nhw’n gwella un diwrnod. Er mwyn i gerddoriaeth fyw a lleoliadau fod yn llwyddiannus rwy’n meddwl mai un o’r pethau mawr ar hyn o bryd yw trafnidiaeth gyhoeddus, sy’n fater enfawr. Mae trafnidiaeth gyhoeddus ledled Cymru yn ofnadwy a does dim trenau hwyr. Beth am gael atebion ymarferol yn eu lle er mwyn helpu’r diwydiant.’